Das Wohltemperierte Klavier

48 o gwplau o breliwdau a ffiwgiau i allweddell yw dau lyfr Das Wohltemperierte Klavier (sillafiad gwreiddiol: Das Wohltemperirte Clavier; Cymraeg: Yr Allweddell wedi'i Da-nawseiddio) gan Johann Sebastian Bach. Mae pob allwedd yn cael ei defnyddio ddwywaith. Cyfansoddodd Bach y llyfr cyntaf yn 1722 yn Köthen a'r ail lyfr yn 1742 yn Leipzig. Roedd "da-nawseiddio" yn cyfeiro at fodd newydd tiwnio oedd yn galluogi cerddorion i chwarae a thrawsgyweirio ym mhob allwedd[1].

  1. Donald J Grout a Claude V Palisca (1997). Hanes Cerddoriaeth y Gorllewin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 449-450. ISBN 9780708313503.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search